Mae fy mab a merch hyn yn symud, fo i'r brifysgol yn Arkansas a hi i fflat yn y dre ma. Dw i wedi bod yn ei helpu fo i drefnu dillad ac ati. Mi fydd o'n byw yn llety'r brifysgol. Mae hi'n ddigon agos iddo ddwad adre pan geith o gyfle. Mae fy merch isio rhannu fflat ger y brifysgol leol efo ei ffrind orau. Mi ddoith hi'n ôl bob nos i ofalu am ei moch cwta.
Fydd dim rhaid i mi goginio na golchi dillad cymaint bob dydd mwyach. Mae plant yn tyfu mor gyflym.
7 comments:
Ydyn! maen nhw'n tyfu'n gyflym iawn. Mae'n anodd credu bod fy mab yn 35 oed yn barod.
Rhagor o amser felly i flogio! :)
Efallai caf dynnu dy sylw at ddau wall bach (o bosibl) yn y blogiad yma:
i)"fo i brifysgol yn Arkansas" [efallai'n wallus]
ii) "Mae plant yn tyfu mor gynt."
i) fo i'r brifysgol yn Arkansas....?
ii) Mae plant yn tyfu mor gyflym....?
o'n i'n gwybod taw jyst anghofio am y tro wnest ti! :)
10/10 A+
Naci wir. Mi wnes i sgwennu "fo i brigysgol" a "mor gynt" yn fwriadol a dweud y gwir.
Diolch i ti szczeb am fy nghywiro i. Hapus cael 10/10A+ !!
bydd pethau'n dawel, yn nhy^ emma reese. ond bydd gen ti ragor o le mae'n debyg. cyfle i'r plant iau ymddiddori mewn rhywbeth sy'n cymryd lot o le. gwneud cerfiadau "maint bywyd" neu rywbeth!
Mae nhw wedi bod yn gwneud mwy na digon o lanast trwy'r ty ers blynyddoedd yn barod. Paid sôn am gerfiadau maint bywyd.
Post a Comment