Dyma gaserol tiwna i ti, Asuka a'r rhai o Awstralia sy heb ei fwyta. Sgen i ddim rysait swyddogol. Dim ond cymysgu pethau yn ôl fy nychymyg dw i:
macaroni a llysiau cymysg wedi 'u coginio
tun o "Cream of Chicken Soup"
tun neu ddau o diwna
caws
llefrith
margarin
perlysiau
I mewn i'r popty tua hanner awr neu fwy. Pryd o fwyd cyflym.
8 comments:
diddorol iawn! diolch emma - fesul un rwy'n dod i gysylltu ystyron â'r termau rwy'n eu nabod o lyfrau ac o'r teledu! ^^
anghofiais weud bod golwg flasus arno!
Mae o braidd yn flasus er mod i'n dweud hyn fy hun. Y peth gorau i mi ydy y ffaith fod o'n hawdd i'w wneud.
ew, hoffwn i beidio bod yn llysieuwr!
ro'n i'n cerdded heibio i 'Bartley's Burgers' heddiw, bron a marw eisiau neidio i mewn... a nawr y tiwna yma...!
Dwyt ti ddim yn bwyta pasgod chwaith, szczeb?
yn anffodus, na - dim anifeiliad nac adar imi, mae arna' i ofn, ar waha^n i'r cig y byddwn ni'n ei "dyfu" gartref (er y byddaf yn bwyta wyau a chynnyrch llaeth).
Pa gig wyt ti'n ei dyfu adre? Mochyn?
yn y rhewgell o gynnyrch cartref ar hyn o bryd mae cig moch, cig eidion a chig oen. Ar hyn o bryd does dim adar yno am fod pob un wedi cael ei fwyta gan y boda! Ond mae brogaod bach yn y pwll ar y clos, fyddai ddim yno falle, tasai'r hwyaid o gwmpas o hyd!
Post a Comment