Mi es i gerdded yn y dre eto tra oedd fy merch yn y wers Ffrangeg. A hithau'n b'nawn Sadwrn, doedd 'na ddim llawer o fyfyrwyr o gwmpas y brifysgol. I stryd Mawr es i wedyn. Doedd 'na ddim cymaint o siopwyr yno chwaith. Mi wnes i weld nifer o leoedd gwag ar hyd y stryd. Mae pawb yn mynd i Wal-Mart.
Wedi bwrw'n drwm yn y bore, roedd hi'n ofnadwy o boeth a mwll. Roedd yr awyr fel sawna. Ar ôl cerdded am hanner awr, mi ges i ddigon a mynd i gasglu fy merch.
Wrth i mi yrru, mi weles i'r rhai oedd yn cymryd mantais ar y tywydd a chael barbeciw yn y cysgod yn ymyl nant y dre. Roedd plant yn chwarae yn y dwr. Dyna peth call i'w wneud yn y fath tywydd!
lluniau: un o adeiladau'r brifysgol
siop gowbois
arwydd Bank of America yn iaith Cherokee
15 comments:
'na adeilad golygus yn y brifysgol. pa mor hen yw'r adeiladau? (ac rwy'n dwlu ar lythrennau'r iaith cherokee sydd i'w gweld yn yr arwydd.)
Mi gaeth o ei godi ddiwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg ond mae o wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar.
Mae'r dref yn edrych yn dwt ac yn daclus ! Dw i'n hoffi adeilad y brifysgol, mae'n edrych fel rhywbeth o ffilm Walt Disney.
Oes 'na un rhywun yn dy ardal sy'n siarad iaith y Cherokee?
Gwych i weld yr iaith Cherokee. Mae'n debyg fod cenhadwr o Gymro Cymraeg, Evan Jones, wedi bod yn rhugl yn yr iaith (a'i fab hefyd, gafodd ei fagu yn ddwyieithog). Buodd y ddau yn bwysig iawn yn yr ymgyrch i gadw hunaniaeth a iaith, yn ôl rwy'n ei ddeall.
ac ar bwyntiau iaith (Gymraeg):
i) Mi es i'n cerdded (fel trosiad o 'I went walking')
ii) A hithau p'nawn Sadwrn
(gair bach wedi neidio o un frawddeg i'r llall sydd yma! ^^)
Corndolly, mi wnes i ddewis lluniau twt a dweud y gwir. Mae 'na lawer o leodd sy ddim yn dwt yn y dre!
Does 'na ddim llawer o Cherokees sy'n medru eu hiaith. Dw i heb ei chlywed hi er mod i'n byw yma dros deg mlynedd.
szczeb, dôn i erioed wedi clywed am Evan Jones hyd yma. Mi ges i sioc ynfawr. Fo wnaeth gyfieithu'r Beibl i'r iaith Cherokee! Mi ddaeth o i'r dre ma efo nhw ar "Trail of Tears"! Ac mi gaeth o ei gladdu yma hefyd!
Rôn i wastad yn meddwl bod 'na ddim byd Cymreig yn Oklahoma, ond dw i'n byw yn nghanol yr hanes mor pwysig heb sylweddoli!!
Dw i'n bwriadu chwilio am ei fedd a mynd â blodau.
Mae na hanesion amdano ef yn cyfieithu ar y pryd rhwng Cherokee a Chymraeg, wrth gyflwyno pregethwyr Cherokee i Gymry America. Roedd y tad a'r mab yn hynod bwysig yn hanes y Cherokee, ac mae rhai o'r farn taw ymwybyddiaeth o sefyllfa'r Gymraeg fel iaith leiafrifol oedd un o'r pethau a sbardunodd Evan Jones i fod mor gefnogol i'r Cherokee. Mae Jerry Hunter ym Mhrifysgol Bangor wrthi'n gweithio ar yr hanes ar hyn o bryd (mae yntau'n medru darllen yr iaith).
Sut faset ti'n ddweud, "I went walking"?
A dweud y gwir ffefryn fy hoff awdures ydy dednydd "hitha..." Dw i ddim yn siwr dw i wedi dweud y frawddeg yma'n iawn.
i) "Mi es i gerdded / Roeddwn i'n cerdded / Dyma fi'n cerdded..." etc.
Fedri di ddim dweud *mi es i'n cerdded dim mwy nag y medri di ddweud, e.e. "Darllenais i'n gwrando ar y radio". Rhaid wrth gysylltair isradd yn yr ail enghraifft "wrth/dan/gan/etc." ("Darllenais i wrth wrando..."), ond fyddet ti ddim eisiau gwneud hynny yn dy enghraifft di gydag "es i" a "cerdded", beth bynnag (*Mi es i wrth gerdded)! Na - rhaid jyst ail-sgwennu'r frawddeg ryw ychydig.
ii) "A hithau'n b'nawn Sadwrn...".
Yma mae angen yr 'yn' bach i ddangos taw traethiad yw 'p'nawn'. Mae na achlysuron lle na fyddai 'yn' traethiadol gennyt yn dod ar ôl 'hithau', ond bryd hynny goddrych (e.e.) fyddai: "A hithau Kate yn hapus o'r diwedd, rhoddodd wên" neu rywbeth o'r fath.
sori am ymateb sy'n peryglu cymylu pethau - rho wybod os yw hyn yn aneglur o hyd (gall Asuka ddod i'r adwy wedyn!) ;)
OK, dw i'n dallt, "a hithau'n b'nawn Sadwrn."
"Mi es i gerdded" neu
"Mi es i i gerdded" fel "Mi es i i siopa" ?
Mae'r ddau yn iawn:
i) mi es i gerdded
ii) mi es i i gerdded
gan ddibynnu a wyt ti'n penderfynu ysgrifennu'r rhagenw personol "i" ('I', 'je', 'ich') ar ôl y ferf ai peidio.
Yr 'i' y mae'n rhaid ei gael fan hyn wrth gwrs yw'r arddodiad 'i' ('to'). Yn bersonol rwy'n credu y byddwn yn hepgor y rhagenw 'i' gan amlaf mewn achosion fel hyn oherwydd y ffaith fod "i i" yn edrych braidd yn od, ac yn anodd ei ddweud (a hefyd mi rydw i'n tueddi weithiau i ddewis ffurfiau 'llenyddol' wrth ysgrifennu!).
Ond mae'r ddau yn hollol gywir, ac os wyt ti eisiau pwysleisio taw ti aeth i gerdded yn hytrach na neb arall, yna mae angen y rhagenw (a chei ddewis rhwng 'i' ac 'innau' wedyn, sy'n gwestiwn arall!).
Diolch yn fawr i ti szczeb am dy help.
Waw, doeddwn i heb wel y cofnod yna.
Does dim ots beth yw maint y delwedd, gallaf ei addasu wedyn, gorau po fwyaf sbo.
Y peth pwysicaf yw'r ansawdd.
Hefyd, os gallaf fod yn hy, er bod yr un banc yn glir, mae'r adlewyrchiad arno'n ei sbwylio braidd.
Os ti'n gallu cael llun gyda logo cwmni mawr amlwg arno (fel un y banc) gorau oll. Byddai cael un sy'n dangos beth yw e'n Saesneg hefyd yn dda, ond ddim yn angenrheidiol - sori am swnio mor ffysi!
e-bost yw: rhysw1 [at] gmail.com
Post a Comment