effaith dysgu cymraeg, 2
Yn ddiweddar pan siarada i neu sgwenna i Saesneg, Dw i'n teimlo fel tasa rhaid i mi dreiglo rhai geirau, ansoddeiriau yn enwedig. Felly yn aml iawn dw i'n petruso am eiliad yng nghynol brawddeg nes i mi sylweddoli bod ddim rhaid treiglo.
Rôn i'n sgwennu Saesneg bore ma, ac mi wnes i sgwennu, ".... is ddifferent...." heb feddwl. Dydy hyn ddim yn digwydd pan wna i ddefnyddio Japaneg achos bod nhw mor wahanol i'w gilydd.
1 comment:
Peth difyr! Ys gwn i sut olwg fyddai ar y Saesneg pe dilynid patrymau gramadegol y Gymraeg drwyddi draw?
Mae rhai academyddio'n o'r farn fod ambell i strwythr yng ngramadeg y Saesneg wedi'u benthyg gan y Frythoneg (drwy bod trwch y boblogaeth Saesneg gynnar yn Gymry ail iaith gafodd eu concro, siwr o od). Trueni nad oedd y treigladau ymhlith y rheiny!
Post a Comment