Mae ffrind i ni a'i deulu'n tyfu llysiau a ffrwythau ar eu tir mawr ucha yn y dre ma. Does 'na ddim coed i fwrw cysgod ar eu cynnyrchion, ac mae buwch neu ddwy yn rhoi maetholyn i'r tir, mae'n siwr.
Dyma un o'r canlyniadau. Mi naeth o yrru melon dwr aton ni neithiwr. Mae o'n pwyso dros 25 o bwys. Melys a llawn o sydd, mi naethon ni 'i fwynhau'n fawr i ginio heddiw.
6 comments:
Neis iawn , ac yn ffefryn gen i yr adeg yma o'r flwyddyn. Yr unig beth ydi fod un cyfa yn dueddol o fod yn ormod i ni, felly fel arfer mi fyddai'n prynu un sydd wedi ei dorri yn barod.
Mae hwn bron yn ormod i ni hyd yn oed. Dan ni'n gweithio ar yr ail hanner heddiw!
Meddwl amdanat pan welais i'r erthygl yma ar dudalen hafan Telus heddiw:
http://ca.news.yahoo.com/s/cbc/080815/canada/stjohns_watermelon_nain
Melon dwr ar werth am $55 mewn siop yn Nain , Labrador !
Dydy'r ddolen ddim yn gweithio, Linda.
Sori am hynny . Newydd edrych arno eto , ac am rhyw reswm tydi'r linc ddim yn gyflawn . Dyma drio eto!
http://ca.news.yahoo.com/s/cbc/080815/canada/stjohns_watermelon_nain
Na , tydio ddim yn gweithio eto! O wel, mi wnai yrru e bôst i ti.
Post a Comment