Thursday, January 1, 2009

diwrnod cynta y flwyddyn 2009

Dim tân gwyllt, dim parti, dim gwledd arbennig, dim ras 5 cilomedr. Dw i wedi croeso blwyddyn arall yn ddistaw. (Caeth fy mhlant hyn barti.) 

Archebes i ddau lyfr a CD gan Wasg Gomer - Traed mewn Cyffion gan Kate Roberts, Lleuad yn Olau (llyfr a CD) gan T.Llew Jones. Ches i mo'r tocyn am y Nadolig gan gwales.com wedi'r cwbl. Economi bregus, mae'n rhaid. Rôn i wedi bod yn meddwl am brynu 'Lleuad' ers blwyddyn neu ddwy. Edrycha i ymlaen at wrando ar T.Llew yn darllen ei nofelau ei hun.

Mae gan 'ngwr amser o'r diwedd i ddarllen ei hoff nofel Japaneg, sef nofel ditectif gan Kyôtarô Nishimura. Mi wnes i sylwi fod o'n tanllinellu geiriau newydd a defnyddiol hefyd. 

Mae'n braf ac yn oer. Mi wna i gerdded yn y p'nawn.

2 comments:

Corndolly said...

Cyfle o'r diwedd i ymweld â dy flog, Emma. Dw i'n hoffi dy flog newydd, ond dw i'n colli llun y mor. Heddiw, dw i wedi darllen popeth ar dy flog am y tro cyntaf ers pythefnos, ac yn dal i fyny efo pethau sy wedi bod yn digwydd yn Oklahoma. Dal ati !!

Emma Reese said...

Falch o glywed gen ti eto. Dw i'n hoffi llun môr Hawaii hefyd ond rhoies i'r llun ma sy mor leol y tro ma.