Sunday, May 3, 2009

dyma nhw!



Doedd dim rhaid i fy ngwr wisgo crys Bluebirds hyd yn oed. Daeth pump o athrawon Ysgol Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd ato fo! Mae gynno fo ffrind mewn prifysgol yn 'Belfast' ac fo a ddaeth รข nhw at fy ngwr.

Yn anffodus, rhai di-Gymraeg o Loegr ydyn nhw i gyd, ond fel mae Jane Austen yn dweud, hwyrach medrai hyn gychywyn rhyw "fortunate alliance."

O.N.
Dw i newydd glywed gan fy ngwr fod o wedi cyfarfod mwy o Brifysgol Caerdydd! A dweud y gwir, mae yna *30* sy'n perthyn iddi hi! Ac mae yna fyfyrwyr hefyd. RHAID bod yna ambell i un neu ddau sy'n medru Cymraeg. Mae o'n mynd i wisgo ei grys Bluebirds yfory. Gobeithio y gwneith o dynnu sylw o'r gweddill o'r criw (yn enwedig y Cymry Cymraeg wrth gwrs!)

No comments: