Thursday, May 7, 2009

diwedd y stori

200 x 3 : Dim canlyniad gêm rygbi ydy o ond nifer o fyfyrwyr yn yr ysgol optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae yna 200 o fyfyriwyr ac mae tri sy'n siarad Cymraeg yn eu mysg. Dydy'r un o'r tri wedi dod i'r gynhadledd yn Florida. Dydy'r un o'r athrawon yn siarad Cymraeg.

Mae fy ngwr wedi cyfarfod rhai ohonyn nhw o leia. Pwy a wyr? Hwyrach ceith o gyfle i gyd-ymchwilio efo nhw ac ymweld â'r Ysgol rywdro (gobeithio!)

2 comments:

neil wyn said...

Mae hynny'n siomedig, ond siwr o fod mi fydd y nifer helaeth ohonynt yn dod o du allan i Gymru fach, er mae 'na dueddiad y dyddiau yma i fwy o fyfyrwyr o Gymru i astudio yng Nghymru (am resymau ariannol yn bennaf).

Pe tasen nhw i gyd yn dod o Gymru, mi faset ti'n disgwyl i dua hugain y cant ohonynt i fod Cymry Cymraeg yn ôl yr ystadegau ond dyna ni...

Emma Reese said...

Dyna beth ôn i'n hanner disgwyl - dim chwech ella ond un neu ddau o 30 o leia.