Monday, May 4, 2009

cerdded yn y glaw


Wnaeth crys Bluebirds fethu. Wnaeth fy ngwr ddim cyfarfod unrhyw Gymro neu Gymraes Gymraeg heddiw. Wel, mae yna ddeuddydd ar ôl nes iddo gychwyn ar y siwrnau adref.

Dim ots. Mae blodau'r derw wedi syrthio i lawr o'r diwedd. Es i am dro am y tro cynta ers wythnosau boed glaw neu beidio. Mae'n siwr bod yna ddim siawns i unrhyw baill hedfan yn y glaw beth bynnag.

O, roedd popeth mor wyrdd! Ac roedd y pethau cynefin yn y gymdogaeth yn edrych yn newydd. Mae'r ffordd newydd yn bron â chael ei gorffen. Bydd yna ragor o dai yn cael eu codi eto.

2 comments:

Corndolly said...

Mae'r un peth yn digwydd yma, Emma. Yn sydyn, mae popeth yn wyrdd, ond mae'r chwyn yn tyfu'n cyflym iawn, yn gyflymach na un rhywbeth arall yn yr ardd. Ond mae gan rhai ohonynt flodau hyfryd hefyd.

Emma Reese said...

Dw i wrth fy modd efo'r gwyrddlesni bob gwanwyn oni bai am yr alergedd.