Saturday, May 16, 2009

o wlad 'only yesterday'


Roedd yna seremoni raddio yn y brifysgol leol heddiw. Daeth rhai rhieni myfyrwyr o Japan i'r achlysur arbennig. Rhieni Namiki oedd ddau ohonyn nhw. Namiki a oedd yn gweithio'n rhan amser yn swyddfa fy ngwr. Maen nhw'n dod o Yamagata lle'r oedd yr anime Only Yesterday wedi'i leoli ynddo. Mae'r bobl yno'n siarad tafodiaith gref. Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at gyfarfod y rhieni wedi gweld y ffilm a chael cymaint o fwynhad.

Roedd yn wych gweld Namiki'n hapus o lawer i wneud camp fawr ac roedd ei rhieni'n glên. Ond rhaid imi gyfaddef mod i wedi cael tipyn o siom. Dydy'r bobl wledig ddim yn siarad tafodieithoedd efo'r lleill. Yn ôl eu harfer, roedd rhieni Namiki'n siarad Japaneg safonol efo fi. (Ella roedd gan y tad fyfryn o acen.)

Byddan nhw'n mynd ar daith fer yn UDA cyn mynd yn ôl i Japan. Mae fy ngwr a'n merch 15 oed yn ymweld â nhw yn Yamagata yn yr haf ma.


4 comments:

asuka said...

oes modd disgrifio'r acen 'ma mewn ffordd bydd y rhai ohonon ni sy ddim yn medru japaneg yn gallu ei deall? swnio'n ddiddorol!

Emma Reese said...

Maen nhw'n ynganu'r llafariaid yn drwynol yn yr un modd a wneir yng Ngogledd Cymru.

Corndolly said...

Mae'n swnio fel rwyt ti wedi bod yn brysur iawn ers i ni siarad y tro diwethaf. Pryd bydd y ysgolion a'r brifysgol yn gau i wyliau'r Haf?

Emma Reese said...

Wnaeth tymor gwanwyn y brifysgol orffen ddoe ond wneith cyrsiau yr haf gychwyn yfory!! Bydd un ysgol yn cau ddydd Mercher a'r lleill ddydd Sadwrn yr wythnos ma.