Saturday, May 9, 2009

letys



Sut dach chi'n sychu letys wedi'u golchi? Bydda i'n eu sychu nhw efo tywel fel arfer, ond dyma gofio darn o ffilm Americanaidd o amser gynt. Byddai'r gwr yn y ffilm yn rhoi nhw mewn bag llain a'i siglo fo'n gyflym tu allan. (Dyna sut mae peiriant sychu'n gweithio, cofiwch.) Dyma arbrofi ar fy letys ddoe. (Peres i fy merch i fodelu.) Roedd y letys yn sych yn braf tra oeddwn i'n cael cymaint o ymarfer corff ar un pryd!

3 comments:

Linda said...

Mi fyddai fel arfer yn sychu letys rhwng 'kitchen roll', ac mae'n gweithio'n dda iawn .
Gyda llaw be di enw'r ffilm tybed?

Emma Reese said...

Dw i ddim yn cofio. Stori am hogan a wnaeth golli ei rhieni a chael amser caled wrth fyw efo'i pherthnasau yn Georgia neu Alabama.

asuka said...

ha - dyna ffordd ro'n ni'n arfer sychu letys pan nad oedd dim lliain, papur cegin na "salad spinnar" 'da ni. bydden ni'n gwneud lot o dyllau mewn bag siopa plastig a'i wneud e mas o ffenest ein fflat.

roedd yn fwy effeithiol na'r disgwyl! ond byddai lliain neu bag "mesh" yn well, rwy'n siwr.