Saturday, January 30, 2010

antur yn yr eira


Welais erioed gymaint o eira yn Oklahoma. Roedd rhaid i mi a'r teulu gael mynd yn y byd gwyn cyn i'r eira doddi. Aethon ni drwy'r coed gerllaw'n cerdded am oriau. Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod nhw mor drwchus. (Dan ni byth yn cerdded ynddyn nhw pan fydd hi'n braf er mwyn cadw draw oddi wrth 'ticks.') Roedd yn hyfryd cerdded ar yr eira ysgafn fel siwgr powdr. Roedd o'n flasus hefyd! Wedi blino'n braf.

2 comments:

Linda said...

Falch o weld eich bod wedi mwynhau mynd am dro yn yr eira.
Lluniau rhagorol !

Emma Reese said...

Diolch! (Mae fy mhengliniau'n brifo rŵan!)