Monday, May 10, 2010

tymor tornados

Mae tymor tornados wedi cyrraedd yn Oklahoma mae'n ymddangos. Ffoniodd fy merch hynaf yn Norman yn dweud bod hi'n bwriadu mynd allan ond aeth hi'n ôl i'r tŷ wedi cael cip ar yr awyr. Roedd y cymylau'n troi rownd. Yn ffodus gadawodd y tornado lle mae hi'n byw ynddo'n barod, ond mae o'n anelu at y Dwyrain. A dw i'n byw i'r dwyrain o Norman, wrth gwrs. Does dim llosgfynydd yn Oklahoma o leiaf!

2 comments:

neil wyn said...

Gobeithio'n wir, nad dych chi'n cael eich daro gan orwynt!

Emma Reese said...

Naddo, mae o wedi hen fynd. Diolch am ofyn. Mae'n ymddangos bod tornados yn osgoi'r dref yma oherwydd y tirwedd ella. (Gobeithio bod y tuedd yn dal!)