
Dw i'n ymuno ag Iola a'r lleill yn mynychu chynhadledd Gristnogol yn y Bala heddiw. Trwy Borthmadog a Thrawsfynydd dan ni'n teithio, yna ar hyd Afon Tryweryn, pasio Fron Goch a chyrraedd Bryn-y-Groes.Mae yna ryw 30 gan gynnwys Derek, y pregethwr. Cawson ni amser cinio hir hamddenol (picnic yn yr ardd hardd) rhwng dwy bregeth. Mae pawb yn ymlacio a mwynhau eu hunain mewn cwmni dymunol. Dwedodd Dewi, gweinidog ger Harlech, fod o wedi perfformio seremoni briodas drwy gyfrwng y Japaneg yn ddiweddar ar gyfer priodferch o Japan a briododd Cymro.
Wedi galw heibio i dad Iola gerllaw, dan ni'n troi i'r chwith cyn Betws-y-Coed, cael cip ar Gastell Dolwyddelan o'r car, mynd trwy Ffestiniog, yna yn ôl i Gaernarfon. Hyfryd cael gweld mynyddoedd yr Eryri o bob ochr.
No comments:
Post a Comment