Monday, January 9, 2012

cyngor mam

Rhaid gwrando ar gynghorion mamau. Mae fy mam sydd yn 90 oed eleni, yn dal i roi cynghorion amrywiol i mi yn enwedig ar bethau ynglŷn â bwyd ac iechyd. Un diweddar oedd rhoi rhywbeth cynnes am eich gwddf pan dach chi'n teimlo'n oer yn y tŷ yn hytrach na gwisgo haen o sanau neu ddillad. (Wiw i chi ddweud wrthi godi tymheredd yr ystafell.)


Dw innau hefyd cadw'r tŷ braidd yn oeraidd pan fydda i ar fy mhen fy hun gan wisgo dillad cynnes. Roeddwn i'n dal i deimlo'n oer, felly penderfynais i roi sgarff gwlân am fy ngwddf fel merch dda. Dyma deimlo'n gynnes yn syth! Rhaid gwrando ar gyngor mam.

No comments: