Saturday, November 3, 2012

pleidleisio'n gynnar

Gan fod y mab hynaf adref y penwythnos 'ma, aeth o a'i dad i bleidleisio'n gynnar. (Dw i ddim yn cael ei wneud fel chi'n gwybod.) Es i dynnu lluniau. Roedd tyrfa fawr o bobl yno; clywais fod yna lawer mwy o bobl yn dod i bleidleisio'r tro 'ma. Wedi dysgu'r pynciau eraill ymlaen llaw (y bore 'ma, a dweud y gwir,) aeth y gŵr a'r mab ati a mynegi eu barn. Dw i'n wir obeithio bydd pobol America'n dewis yn gall heb gael eu twyllo gan gelwyddau braf y cyfryngau, a ballu.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Dw i'n wir obeithio bydd pobol America'n dewis yn gall heb gael eu twyllo gan gelwyddau braf y cyfryngau, a ballu.

Roedd rhaglen deledu neithiwr ar o'r enw Talk Radio Nation am orsafoedd radio y UDA. Roedd yn cael ei gyflwyno gan ddarllenwr newyddion Channel 4 (Y Deyrnas Gyfunol). Diddorol...