Wednesday, March 16, 2016

cynnyrch hyfryd

Daeth y teulu'n ôl ddoe wedi ymweld â fy merch ifancaf yn y brifysgol yn Missouri. Arhoson nhw yn y gwesty enwog ar y campws a chawson nhw eu synnu pa mor hyfryd ydy'r gwasanaeth. Y gwesty gorau mae o erioed wedi aros ynddo, yn ôl y gŵr. Mae'r myfyrwyr yno'n gweithio'n galed ym mhob man ar y campws, y gwesty, y tŷ bwyta, y gegin, y fferm, y lladd-dy, y felin, y siop, y ffatri; mae rhai'n godro'r gwartheg am dri o'r gloch bob bore hyd yn oed. Hyn i gyd yn ogystal â'r astudio maen nhw'n ei wneud wrth gwrs. Mae'r myfyrwyr yn cynhyrchu bron pob dim, ac mae'r cynnyrch yn enwog am eu hansawdd uchel yn yr ardal. Ces i flas o'r byrbryd a ddaeth y teulu'n ôl. Mae o'n anhygoel o flasus!

No comments: