Friday, March 25, 2016

yn annisgwyl

Dw i wedi darganfod cyfres fideo ddiddorol yn Ffrangeg ar You Tube, sef Echappées Belles; mae tri o griw (un ar y tro) yn mynd o gwmpas y byd i gyflwyno gwledydd eraill mewn ffordd bersonol. Maen nhw wedi sicrhau tywyswyr lleol sydd yn helpu'r criw ym mhob gwlad. Mae rhai'n siarad Ffrangeg; fel arall bydd yna voiceover yn Ffrangeg. Gwyliais yr episod am Gymru. Doedd yr un o'r tywyswyr yn siarad Ffrangeg ar wahân i un - pwy groesawodd y Ffrancwr yn Nolgellau a mynd â fo o gwmpas yn siarad Ffrangeg yn hollol rugl ond Bethan Gwanas! Doeddwn i ddim yn gwybod bod hi wedi ennill gradd yn yr iaith honno. Mae ei Ffrangeg yn haws deall na'i Chymraeg efo acen Ddolgellau a dweud y gwir! Gyda llaw roedd pawb arall yn siarad Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg.

No comments: