Dw i'n mynd i siarad Cymraeg â phob siaradwr Cymraeg tra bydda i yng Ngymru yn yr haf ma. Wna i wrthod siarad Saesneg â fo. Wedi'r cwbl, mae fy ngwr yn fodlon talu 3,000 o ddoleri i mi gael mynd i Gymru. Y bwriad? I siarad Cymraeg efo'r bobl leol yn bennaf.
Well i mi beidio bod yn swil wrth ei siarad hi ac yn teimlo'n euog am roi trafferth i siaradwyr Cymraeg efo fy Nghymraeg llai-na-rhugl.
Dw i'n gwybod y ca i fy nhemtio i droi i'r Saesneg yn yr amser gwan. Dyna pam mod i'n sgwnnu fy mhenderfyniad yma i fy atgoffa i fy hun ohono fo.