Roeddwn i bob amser yn meddwl bod ynganiad Ffrangeg yn amhosib i mi. Dechreuais ddysgu'r iaith drwynol honno fisoedd yn ôl fel her i fi fy hun felly. Penderfynais wneud fodd bynnag, yn hytrach, beidio â gwneud dau beth wrth gychwyn dysgu iaith estron y tro 'ma. 1: Peidio â phrynu deunydd. 2: Peidio â dysgu'r gramadeg fel pwnc; dw i'n ei dysgu hi "fel mae'n dod." Ar ben hynny, roeddwn i eisiau profi dull Alberto (Italianoautomatico) hynny ydy, "gwrando, gwrando, gwrando"
Yn sicr mae yna nifer o bethau ar gael ar y we yn rhad ac am ddim, ond maen nhw'n rhy ddiflas neu rhy anodd yn fy nhyb i. Roeddwn i'n methu ffeindio gwers sydd yn taro deuddeg.... hyd yn ddiweddar. Ffeindio gwers hyfryd wnes i! Mi sgrifenna' i amdani hi yfory gan fod y post hwn yn mynd yn rhy hir.
Friday, September 5, 2014
Thursday, September 4, 2014
anrhegion penblwydd arbennig
Yr anrheg benblwydd a gafodd fy mab hynaf gan ei chwaer (fy ail ferch) oedd sgarff dîm Real Madrid. Ac nid phrynwyd drwy'r we oedd hi ond prynwyd yn "real" Madrid! Wedi gorffen ei gwaith gwirfoddol yn yr Eidal, teithiodd fy merch yn Ffrainc, Sbaen a Lloegr cyn dod adref; prynodd hi lawer o bethau i roi yn anrhegion. Hon oedd un ohonyn nhw. Roedd fy mab yn hapus dros ben fel cewch chi weld! Cafodd fy ddwy ferch grysau T a thlysau crog a brynwyd yn Llundain.
Wednesday, September 3, 2014
i'r fferm
Aeth rhan o'r teulu i fferm ffrind dros y penwythnos diwethaf yn cael amser braf efo'r anifeiliaid yno. Roedd fy merched wrth eu boddau'n chwarae efo nhw a godro'r afr. Roedd yna dwrci sydd yn credu mai ci ydy o, ac felly yn cyfarth fel un! Druan o'r defaid fodd bynnag sydd yn chwysu heb gael eu cneifio. Mae'r ffrind yn cadw gwenyn hyd oed a chynhyrchu mêl. Cawson ni lefrith a chaws gafr, llysiau a mêl yn anrhegion. Braf iawn.
Tuesday, September 2, 2014
i yvonne
Er nad ydw i'n sgrifennu'r blog hwn er mwyn diddanu'r bobl eraill, ac felly na fydda i'n dewis pynciau sydd yn apelio atyn nhw, mae'n braf cael sylwadau clên o bryd i'w gilydd. A dweud y gwir, does dim llawer o bynciau arbennig i adrodd amdanyn nhw gan nid yn Fenis dw i'n byw ynddi ond mewn tref fach gysglyd yn Oklahoma. Dyna pam fy mod i'n adrodd fy swper yn aml! Mae'n hynod o bwysig, fodd bynnag, i mi sgrifennu yn Gymraeg bob dydd i gadw beth dw i wedi ei ddysgu, ac am ryw reswm mae blog yn llawer atyniadol na dyddiadur ar bapur. Diolch i ti felly, Yvonne am dy air clên. Mi fyddai'n hyfryd pe byddwn i'n medru dy gyfarfod yn Fenis ryw ddiwrnod.
Monday, September 1, 2014
labor day
Cysgais yn dda neithiwr a dw i'n teimlo'n llawer gwell. Labor Day ydy hi heddiw ac felly mae pawb adref gan gynnwys fy merch hynaf a'i gŵr sydd wrthi'n gosod camerau gwyliadwriaeth i'r tŷ ers ddoe. (Un o'i waith ydy hyn.) Ar hyn o bryd mae fy ail ferch yn torri gwallt ei chwaer hŷn yn y gegin. (Mae'r gwaith perm wedi gorffen) tra mae fy ngŵr yn ceisio gosod garbage disposal newydd. (Mae'r hen declyn wedi torri a gollwng dŵr.) Dylwn i baratoi cinio bach rŵan.
Sunday, August 31, 2014
diwrnod mawr wedi gorffen
Cawson ni ddiwrnod braf ddoe. Wedi cinio mewn tŷ bwyta Mecsicanaidd, aethon ni i'r ysgol optometreg i dynnu lluniau. Roedd cysgod perffaith dan goeden fawr o flaen yr adeilad. Fy merch hynaf a drefnodd popeth fel arfer. Yna, aethon ni adref a bwyta'r cacennau penblwydd dw i wedi eu paratoi'r diwrnod cynt. Agorodd y tri eu hanrhegion. Aeth fy mab hynaf a'i gariad yn ôl i Texas neithiwr. Roeddwn i wedi blino'n lân ond yn fodlon.
Saturday, August 30, 2014
diwrnod mawr
Diwrnod mawr i'r teulu ydy hi heddiw, sef diwrnod i ddathlu tri phenblwydd. Daeth fy merch hynaf a'i gŵr o Norman; daeth fy mab hynaf a'i gariad o Texas. Mae'r tŷ yn llawn dop. Roeddwn i wrthi'n paratoi tair cacen neithiwr tra bod fy ail ferch yn rhoi "perm" i'w chwaer hŷn yn y gegin. Mae pawb yn cysgu'n hwyr y bore 'ma ond dylen ni dynnu llun ar gyfer ein llythyr Nadolig cyn mynd i dŷ bwyta. Wedyn byddwn ni'n bwyta'r cacennau, agor yr anrhegion cyn i fy ail ferch fynd i'r gwaith am dri o'r gloch yn y prynhawn! Bydd fy mab hynaf a'i gariad yn mynd yn ôl i Texas heno tra bydd fy merch hynaf a'i gŵr yn aros nes dydd Llun.
Subscribe to:
Posts (Atom)



