Sunday, September 16, 2007

eglwys ar y we

Es i ddim i'r eglwys heddiw achos bod fy mab iau'n sâl. Mae ffliw'n mynd o gwmpas y dre, ac mae llawer o bobl yn sâl iawn. Dw i wedi rhwbio ei fol drwy'r bore.

Dw i'n gwrando ar wasanaeth Moody Bible Church yn Chicago ar radio pan fedra i ddim mynd i'r eglwys am ryw reswm neu gilydd. Fel arfer, mae sain yr orsaff FM yn wael iawn. Ond heddiw, mi nes i wrando ar yr un gwasanaeth ar y we. Roedd y sain yn well o lawer.

Rhaid fy mab yn teimlo'n well bellach. Mae o'n chwarae efo'i chwaer. Dw i isio cysgu...

4 comments:

Linda said...

Da clywed fod y sain yn well ar gyfer y gwasanaeth heddiw. Dim ond pedwar ohonom oedd yn y cymun wyth yn ein heglwys ni y bore 'ma. Cynulleidfa tila iawn.
Gobeithio y bydd dy fab yn teimlo'n well yn fuan .

Emma Reese said...

Mae o'n well. Aeth o i'r ysgol heddiw. Diolch.

Rhys Wynne said...

Neis gweld dy fod a blog o'r diwedd Emma!

Beth am wrando ar bregeth/oedfa yn Gymraeg?

Emma Reese said...

Diolch i ti Rhys am ddod ac am y ddolen. Do'n i ddim yn gwybod amdani hi.