Sunday, October 7, 2007

ch, ll, r

Mae fy ffrind yn Llundain yn dal i ddysgu Cymraeg. Mae hi'n dweud bod yn anodd iawn ynganu ch. Dydy hyn ddim yn rhoi gormod o drafferth i mi. Ac dw i wedi dysgu sut i ynganu ll wrth syllu ar geg Gareth Roberts yn y raglen, Talk About Welsh.

Yr her fwya oedd r. Fedrwn i ddim rowlio fy r's. Ro'n i'n credu bod rhai pobl wedi cael eu geni efo'r ddawn arbennig. Ond ro'n i'n ysu am rowlio fy r's fel mod i wedi penderfynu ymarfer nes i mi lwyddo. Rhaid mod i wedi ymarfer dros hanner mil gwaith tra o'n i'n cerdded. Ac o'r diwedd, mi nes i lwyddo! Dw i ddim cystal â Heledd Sion neu Dyfan Tudur wrth gwrs, ond dw i'n hapus!

2 comments:

Corndolly said...

Oh! dw i'n genfigenus iawn! Mae gen i'r un problem efo 'r'. Weithiau dw i'n gallu dipyn o rwlyio ond dim llawer. Rhaid i ti ddweud sut wyt ti'n gallu ymarfer rhywbeth fel hyn !!

Emma Reese said...

Mae'n anodd esbonio gan sgwennu (hard to explain by writing?) Na i siarad â ti am hyn ar Skype.