Thursday, October 25, 2007

british contact lens association

Mae fy ngwr yn Florida yr wythnos ma'n mynychu cynhadledd optometreg. Mi naeth o gyfarfod doctor o Birmingham. Gofynodd o i'm gwr ysgrifennu erthygl dros British Contact Lens Association ac annog iddo ddod i'r gynhadledd yn Birmingham flwyddyn nesa. http://www.bcla.org.uk/conference.asp

Mae hynny'n newyddion diddorol! Dw i wedi ei gymell derbyn y gwahoddiad wrth gwrs. Faswn i ddim yn mynd efo fo er fod o'n penderfynu mynd ond basai hi'n wych datblygu cysylltiadau efo Prydain. (A dweud y gwir, dw i'n gobeithio bydd Adran Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd yn wahodd i ddod!)

Roedd fy ngwr wrth ei fodd pan glywodd o bod 'na wibdaith i Fanceinion i ymweld รข stadiwm Manchester United ar ddiwedd y gynhadledd llanedd.

No comments: