Dw i newydd ddarganfod bod 'na Ddraig Goch arall yn chwifio ar y Cynta o fis Mawrth yn Oklahoma ers flynyddoedd heb i mi wybod.
Mi ges i gyfeiriad Mrs. P sy'n byw yn Oklahoma City oddi wrth Dogfael sy'n gwybod mod i wedi chwilio am siaradwyr eraill yn Oklahoma. Mae un o'i ffrindiau'n meddwl mai he oedd ysgrifennydes Cymdeithas Gymraeg yn y dalaith ma. Mi nes i yrru llythyr ati hi yr wythnos ma a chael galwad ffôn oddi wrthi hi ddoe.
Yn anffodus, dwedodd hi bod hi erioed wedi clywed am Gymry yn Oklahoma. Ond roedd ei thaid a'i nain yn byw yn Ohio, ac yn siarad Cymraeg yn rhugl er bod gynni hithau ddim mymryn o'r iaith.
Er gwaetha'r siom cawson ni sgwrs ddymunol. Buodd hi yng Nghymru chwe blynedd yn ôl yn ymweld â'r Eisteddfod ac ati. Bydd hi'n codi Draig Goch ar y cynta o fis Mawrth pob blwyddyn. Mi nes i ddweud tipyn o'm hanes iddi hi hefyd.
Gobeithio bydda i'n cyfarfod rhywun ryw ddiwrnod.
1 comment:
Mi fyddai wastad yn cyffroi pan welaf Ddraig Goch yr ochr yma i'r byd :) Byddaf yn gweld dreigiau ar geir yn reit aml yn y Dyffryn, ond amwni , ni di'r unig rai yn y cyffiniau sy'n chwifio'r faner yn ystod y flwyddyn.
Post a Comment