Mi nes i brynu llyfr bach i blant gan Wasg Gomer, sef Golwg ar Japan gan Lorens Gwyr (John.) Cyn iddo farw eleni, roedd o'n byw yn Japan yn dysgu Cymraeg i oedolion gan gynnwys y Dywysoges Michiko (Ymerodres ydy hi bellach.) Newyddion mawr i mi ydy hyn hefyd.
Mae'r holl ddisgrifiad Japan yn gywir ac yn glir efo llawer o luniau. Mi naeth o sgwennu am yr iaith yn syml iawn. Gad i mi roi enghraifft fy hun:
私はウェールズ語を習っています。(Watashi wa Uêruzugo o naratte imasu.) -Dw i'n dysgu Cymraeg.-
Mi glywes i bod na lyfrau dysgu Cymraeg a Mabinogi hyd yn oed drwy gyfrwng y Japaneg. (Mae na lyfrau dysgu Japaneg drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd!) Dw i ddim yn gwybod faint o bobl Japaneaidd yn dysgu Cymraeg ond hanes diddorol ydy hyn.
6 comments:
Wow..... Japanes ydych chi, ond rydych chi'n siarad Cymraeg!! Cwl!!
Gwyddel ydw innau, ac dw i'n dysgu'r iaith yn y coleg 'ma.
Helo Scott. Diolch am dy sylw. Wyt ti'n dysgu Daneg hefyd? Ro'n i'n arfer gweithio dros gwmni Denmarc amser maith yn ôl yn Tokyo. Mi geisies i ddysgu Daneg ond rhoi gorau iddi. Gwarth arnaf. Mange tak!
Doeddwn i ddim yn gwybod fod 'na lyfr dysgu Japaneg drwy gyfrwng y Gymraeg.Diddorol iawn !Sgen ti fwy o wybodaeth amdano?
Mi fuaswn wrth fy modd medru dysgu iaith arall , ond wastad wedi meddwl y buasai'n hawsach drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma hi, Linda:
http://www.acenstore.co.uk/products/?pid=3176
Ond dw i ddim yn gwybod ydy hwn yn dda neu beidio.
Diolch i ti emma .
Wel, dw i ddim yn dysgu'r iaith nawr, mae gennyf Ddaneg dda.
Ti wedi bod yn pob lle!! haha!
Post a Comment