Tuesday, October 30, 2007

lle mae cymry yn tulsa?

Mae Neil Wyn yn iawn. Dw i'n meddwl bod Cymry sy'n byw tu allan i Gymru'n tueddu'n 'cuddio' eu hun, wel, Cymry yn Oklahoma o leia. Fel arall, dw i ddim yn dallt pam nad ydw i'n medru dod o hyd iddyn nhw yn ninas enfawr fel Tulsa. Dw i'n gwybod mae 'na rhai yno: http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/papurau_bro/goriad/newyddion/mai03.shtml

Mi nes i gofrestru ar gyfer Facebook yn ddiweddar er mwyn bod yn ffrind i Corndolly. Dw i wedi ymuno â Network Tulsa a cheisio ffeindio siaradwyr eraill gan ddefnyddio geiriau fel, Cymru, Cymraeg, siarad, Wales. (Dydy 'Welsh' ddim yn gweithio achos bod llawer o bobl efo'r cyfenw ma.) Pwy ymddangosodd ar y sgrîn ond fi fy hun! O wel, na i ddal at eu ceisio.

2 comments:

Rhys Wynne said...

n anffodus, tydi'r ddolen ddim yn gweihtio, ond efallai gallet holi'n lleol am Oklahoma Welsh Society?

http://www.wales-direct.co.uk/welshsocieties.asp?s=Oklahoma

Emma Reese said...

Gweithio mae hi pan geisies i. Na ryfeddol. Dydy Oklahoma Welsh Society ddim yn fodoli mwyach.