Monday, October 22, 2007

mae o yma!

O'r diwedd! Mi gyrhaeddodd Cwrs Pellach p'nawn ma! Mi naethon nhw bostio ar y 4ydd o fis ma ym Mangor. Felly cymerodd hi'n ddeunaw diwrnod, ac mae'r amlen mewn cyflwr trist. Dw i'n hapus iawn beth bynnag. Mi na i ddechrau ar unwaith. Bydda i i fod i ddarllen Bywyd Blodwen Jones, ond dw i wedi ei darllen yn barod. Mi ga i recordio fy ngwaith mewn tâp weithiau i ymarfer siarad yn lle sgwennu. O, dw i'n gyffro i gyd!

2 comments:

Linda said...

Yn falch o ddarllen dy fod ti wedi ei dderbyn o'r diwedd. Gobeithio fod cynnwys yr amlen mewn cyflwr gwell na'r amlen ei hun!

Emma Reese said...

Diolch i ti, Linda. Mae'r cynnwys yn iawn. Mi nes i gychwyn Uned 1 neithiwr.