Mi nes i gerdded o gwmpas y dre ar ôl y gwersi os doedd hi ddim yn bwrw'n rhy drwm. Dringes i'r grisiau i fyny at Roman Camp a gweld golygfeydd hyfryd. Mi es i i swyddfa'r post i bostio cardiau. Dwedes i, "Post Awyr, os gwelwch yn dda." Atebodd y dyn yn Gymraeg ar wahan i bris y stampiau. Ond pan brynes i gylchgrawn mewn siop lafrau fach, dwedodd y dyn yna, "You speak Welsh very well" yn Saesneg! O, wel.
Ro'n i'n syn gweld cymaint o bethau Americanaidd yn Morrisons. A mi ges i syndod mawr pan weles i 'Yakuruto' ar silff. Diod Japaneaidd ydy hi. Rôn i'n arfer ei yfed pan ôn i'n blentyn.
Serth iawn oedd y ffyrdd yna ac roedd fy nghoesau'n brifo gyda'r hwyr. Ond roedd yn dda gen i gael gweld y dre wrth gerdded.
2 comments:
Ro'n i'n byw dim yn bell o "Roman Camp" yn y Ffordd y Garth pan o'n i'n byw ym Mangor. Mae'r olwgfa hyfryd iawn yno, 'tydy?!
Wyt ti'n nabod Tafarn yr Undeb Garth?
Neis clywed oddi wrthat ti, Tom. Ydy. Mi ges i 360 gradd banorama oddi ar ben Roman Camp.
Dw i ddim yn nabod y dafarn. Yr unig dafarn fues i ym Mangor (efo'r dosbarth) oedd yr Iard Gychod.
Post a Comment