Thursday, May 1, 2008

rheithgor

Prin mod i'n defnyddio'r gair ma ond rhaid i mi wneud hyn heddiw. Mi ges i fy ngwysio i'r llys dosbarth i wneud gwasanaeth rheithgor. Mae'r llythyr yn dweud bod gan bob dinesydd ddyletswydd i wasanaethu ar reithgor. Dim dinesydd Unol Daleithiau America dw i ond dinesydd Japan a mewnfudwr cyfreithlon.

Mi ffonies i glerc y llys yn esbonio, a swniodd hi'n ddigon annifyr. 'Na drueni. Mi fasai gwasanaethu ar reithgor yn brofiad unigryw i adrodd yn fy mlog i.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Bues i ar reithgor y llynedd. Roedd yn brofiad digon diflas (er cefais gyfle i ddarllen llyfr cyfan!).

Dwi'n cofio darllen un o byst cynnar blog Ansicrwydd am ei brofiad o/hi o fod ar reithgor yn UDA a synnais bod cysylltiad i'r wê ar gael!

Emma Reese said...

Ella bod y gwasanaeth yn ddiflas ond dw i'n chwilfrydig. Mi fasa fo'n rhywbeth i sgwennu amdano o leia.