Tuesday, May 27, 2008

sash a chrafatiau


Sash i'w ffrog briodas a chrafatiau i saith o ddynion gan gynnwys fy mab ifanca, mi gofynodd fy merch i mi neud a heb batrwm. Ar ôl cwech neu saith awr mi nes i orffen sash rhywsut neu gilydd. Dydy o ddim cystal ag un werthir mewn siop wrth gwrs, ond dyma fo. Fy merch 14 oed sy'n ei wisgo drosta i yn y llun, felly mae o'n llusgo tipyn mwy nag y dylai. Mae'n ymddangos bod sashiau'n ffasiynol ymysg priodferched dyddiau hyn.

Rwan, rhaid i mi ddechrau crafatiau.

2 comments:

Linda said...

Smart iawn . 'Rwyt ti wedi bod yn brysur!

Emma Reese said...

Ydw wir. Dw i bron â gorffen y crafatiau. Mi fydd popeth yn arbediad enfawr i fy merch. Mi fasen nhw i gyd wedi costio dros $500.