Monday, July 28, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 7 (19/7)




Gwledd, a Noson Lawen

Mi gaethon ni bryd o fwyd ardderchog yn y neuadd (ddim yn y ffreutur efo'r cannoedd o fechgyn): salad, cyw iâr, tatws, "green beans", bara a phwdin.

Yna, amser Noson Lawen! Roedd 'na sgitiau, offeryn cerddorol, adroddiad storiau, côr, ayyb. Mi naeth pob dosbarth berfformio sgit. 

Sarah naeth sgwennu'r sgript ddoniol i'n dosbarth ni. Dyma'r crynodeb:
Mae tiwtor Cymraeg, Geraint yn dod i America i ddysgu cwrs Cymraeg am y tro cynta erioed. Mae o'n meddwl bod pob Americanwr yn hoffi MacDonald's, rhaglenni reality, pêl fas a John Wayne. Ac mi gaeth ei synnu'n cyfarfod y rhai sy'n siarad Cymareg a bwyta'n iach....   Dw i'n meddwyl bod ni'n gwneud yn dda iawn, ac naethon ni i gyd hwyl!

Mi orffenon ni'r noson wrth canu Hen Wlad efo Côr Madog. Roedd yn noson lawen wir.

5 comments:

asuka said...

os oedd y tiwtor yn y ddrama am ddarganfod cartref ysbrydol y rhaglen realiti, dylai fe fod 'di aros ym mhrydain!
pa rôl a chwaraeaist ti yn y cynhyrchiad 'ma?

Emma Reese said...

Un o'r dysgwyr. Dyma fy llinell:
"Ych a fi! McDonald's gross! Dw i'n hoffi tofu, sushi ac alffalffa."

Roedd gan bawb llinell neu ddwy.

Zoe said...

Haha. Ond hefyd mae ofn arna i bod y bobl o Gymru yn meddwl bod Americanwyr yn bwyta McD's bob dydd. Dw i'n cytuno efo dy llinell, Emma: Ych a fi!

Emma Reese said...

Dw i'n bwyta bwyd McD weithia (tua unwaith neu ddwy y flwyddyn) ond ddim bob dydd.

Corndolly said...

Rhaid i mi ddweud, Emma, fod Ysgol yr Haf yn Iowa yn ymddangos yn llawer gwell na rhai sy'n cael eu trefnu yma. Hoffwn i fynd !!