Thursday, July 31, 2008

mae pres yn hedfan i ffwrdd

Mae amser wedi dwad atgywerio bron popeth tu mewn ac allan o'n ty ni. Dan ni newydd ddarganfod rhaid ail-beintio tu allan i'r ty cyn gynted â phosib neu bydd y prennau'n dechrau pydru cyn bo hir. Mi fydd hi'n costio tua $23,000. Ddoe gaethon ni dorri i lawr coeden wedi'i marw yn yr ardd eto ($450.)

Dw i isio ty maen efo to llechen (Cymreig os yn bosib.)

(Mae'n ddrwg gen i. Mi nes i sgwennu $23,000 ond $2,300 ydy y cost cywir!)

5 comments:

Corndolly said...

Wow, Emma, $23,000 i beintio'r tŷ! mae hyn yn ymddangos arbennig o ddrud. Oes 'na unrhyw beth sy'n pydru yn Oklahoma? Mae hi mor boeth!

Emma Reese said...

Y broblem ydy tai yn cael eu adeiladu efo defnyddiau rhad yn dyddiau hyn, felly dydyn nhw ddim yn para'n hir oni bai bod ni'n ofalus.

Bydd y paent yn costio $1,000 ac bydd y gweddill yn talu am y gweithwyr. Mi fyddan nhw'n trwsio a golchi tu allan y ty hefyd.

asuka said...

ro'n i'n dechrau breuddwydio am brynu lle yn ohio. ond... rwy'n ailystyried y cynllun 'na'n sydyn.
$23,000. waw.

Emma Reese said...

Dw i wedi dechrau meddwl ydy hi'n gall prynu ty o gwbl.

asuka said...

mae ddi *yn* gwneud iti feddwl.