Mae hi'n oeri tipyn. Mae'r coed yn brysur colli eu dail. Mae'r dyddiau'n fyrrach. Arwyddion yr hydref ydy'r rhain i gyd. Mae 'na un peth arall sy'n gwneud i mi feddwl fydd y gaeaf ddim yn hir - glanhau'r simne. Ydy, mae'r amser wedi dwad cael glanhau'n simne cyn inni gynnau tân ar y stôf. Wrth gwrs bod hi ddim yn ddigon oer eto ond rhaid i ni fod yn barod. Doith oerni mewn wythnosau heb rybudd.
Daeth dau hogyn heddiw i wneud y gwaith, un ar y to a'r llall wrth y stôf. Gorffenon nhw bopeth mewn hanner awr. Dwedodd un o'r ddau basen nhw'n mynd i lanhau mwy o simneiau heddiw. Mae 'ngwr yn mynd i dorri coed ddydd Gwener.
1 comment:
Dynion simne te? Rwyt ti'n iawn, bydd y tywydd oer yn cyrraedd heb rybydd yn fuan dw i'n siŵr.
Post a Comment