torri coed
Ddiwrnod braf yn yr hydref roedd 'ngwr yn torri coed efo dau fyfyriwr Japaneaidd p'nawn ma. Mae gynnon ni ddigon o goed heb fynd i gasglu rhagor eleni. Dim ond eu torri nhw'n goed tân sy angen. Dwedodd yr hogia fod nhw'n cael hwyl. Dw i'n siwr mai profiad arbennig oedd o achos bod bron neb yn torri coed i stofiau yn Japan y dyddiau hyn. Mae hi'n oeri cryn dipyn yn y nos bellach. Mae'n siwr byddwn ni'n cynnau tân cyn bo hir.
2 comments:
Dim byd gwell na thân coed, er mai gas sydd gennym bellach.
Ac medra i goginio ar y stof hefyd. ˆˆ
Post a Comment