Saturday, October 18, 2008

fish fry





Diwrnod 'Fish Fry' oedd hi heddiw. Es i a'r teulu i dyˆ ffrind am fryd o fwyd arbennig. Mae John y deintydd sy'n fysgotwr medrus yn cadw pysgod wnaeth o ddal yn yr haf yn y rhewgell a chael 'Fish Fry' yn yr hydref bob blwyddyn. (Ia, fo sy'n coginio!) Eleni caethon ni bysgod ddalodd fy hogyn fenga hefyd. Roedd 'na tua hanner cant o bobl efo bwyd yn ymgasglu yn ei sgubor. Mae John a'i deulu yn byw ar y tir ucha yn y dre, ac mae gynnyn nhw olygfa fendigedig i bob cyfeiriad. 

7 comments:

Corndolly said...

Dw i'n falch bod gynnoch chi i gyd ddiwrnod braf dros y 'Fish Fry' Mae'n amlwg y cawsoch chi llawer o hwyl hefyd. Dw i'n hoffi dy luniau!

Emma Reese said...

Diolch!

Chris Cope said...

O wow, mae hynny'n edrych yn wych. A ydw i'n gweld hush puppies yno? Mor eiddigus ydw i!

Emma Reese said...

Dim hush puppies ydy'r rheina yn y llun, ond do, caethon ni rhai hefyd.

asuka said...

cymaint o fwyd fel bod hi'n edrych fel siop sgod a sglods fawr!

beth yw hush puppies...?

Emma Reese said...

ffefryn 'ngwr!
http://en.wikipedia.org/wiki/Hushpuppy

asuka said...

diddorol - rwy'n leicio'r fil ac un o storïau am ffordd y ceuthon nhw eu henw!