![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEialVA7tiHjLLhcVP7WwjEolIlkSrZ_fmIdsbuKTeVZqRcc2-QYPnzbvN2_VXFR6HEulNGzDu9DYuer8raamh_rpvppPm1syvx4p-10pkCxKMFYnOZvfv6tlwvKzCdTS5ZH4xMc6DnQFP8/s200/images.jpeg)
Mi sgwenna i'r neges ma dipyn yn gynt fel y ceith hi ei darllen yng Nghymru'n ddigon cynnar ddydd Sadwrn. Dw i heb glywed unrhyw newyddion amdano fo'n ddiweddar ond gobeithio fod o'n cadw'n iach.
Dyma lyfrau T. Llew dw i wedi eu darllen eleni:
Ofnadwy Nos
Cyfrinach y Lludw
Un Noson Dywyll
Maen nhw i gyd yn gyfaelgar ac mae'n anodd rhoi nhw i lawr. Ac eto rhaid i mi gyfadde mai Barti Ddu sy'n dal yn fy ffefryn oherwydd stori'r môr a'r prif gymeriad. Dw i'n gobeithio ca i ddarllen mwy o'i nofelau flwyddyn nesa hefyd.
Cofion cynnes a dymuniadau gorau i T. Llew!
No comments:
Post a Comment