Saturday, March 12, 2011

diolch

Diolch o galon i bawb a holodd sut mae fy nheulu yn Japan ar ôl y daeargryn. Siaradais i â fy mam a fy merch yn ardal Tokyo neithiwr. Maen nhw'n iawn er bod nhw wedi mynd trwy brofiadau dychrynllyd.

Mae'r sefyllfa ar yr arfordir yn dal i waethygu. Diolch yn fawr i bawb yn y byd sy'n teimlo dros y dioddefwyr ac yn barod i'w cymorth gan gynnwys y tîm o achubwyr Cymru.

3 comments:

neil wyn said...

Dwi'n falch o glywed bod dy fam a dy chwaer yn ddiogel. diolch am rhoi wybod i ni, pob hwyl, Neil

Linda said...

Gobeithio dy fod yn dal i fedru cadw cysylltiad efo dy deulu yn Japan.Dwi'n siwr y bydd yn gysur i dy fam fod dy ferch di'n digwydd bod yno hefyd.

Emma Reese said...

Diolch yn fawr i'r ddau ohonoch chi. Clywais i fod y silffoedd siopau'n hanner wag bellach, ond mae eu sefyllfa'n dda o'i chymharu â rhai ar yr arfordir.