Friday, December 23, 2011

siom

Roeddwn i'n anghofio siarad am il Volo efo perchennog Napoli's sy'n dod o Sicily pan oeddwn i yno'r tro diwethaf. (Dau o'r tri hogyn yn dod o Sicily fel pawb yn gwybod!) Felly es i yno am ginio heddiw er mwyn ffeindio ydy o'n eu nabod nhw, neu well fyth, ydy o'n perthyn iddyn nhw rhywsut (fel pawb yn perthyn i'w gilydd yn y byd Cymraeg!) 


Roedd y spaghetti primavera'n dda ond roeddwn i'n meddwl am siarad â'r perchennog yn hytrach na am y bwyd tra oeddwn i'n ei fwyta. O'r diwedd daeth amser i dalu, a daeth o at y til. Ond dydy o ddim yn eu nabod nhw; dydy o ddim hyd yn oed wedi clywed amdanyn nhw, ac nhwthau mor aruthrol a phoblogaidd yn y byd! Am siom!

No comments: