Monday, August 27, 2012

nofel hanesyddol

Prynais i nofel arall ynghyd â Thermae Romae gan Amazonjapan, a dechrau ei darllen ddyddiau'n ôl. Nofel hanesyddol ydy hi am Nobunaga Oda, un o'r dynion enwocaf yn hanes Japan. Mwynheais i'r rhaglen deledu cymaint pan oeddwn i yn Japan ym mis Mawrth fel prynais i'r llyfr i wybod mwy amdano fo. Dw i'n ei chael hi'n anodd darllen hanes fel "gwybodaeth" ond dw i'n hoff iawn o nofelau hanesyddol. Wrth gwrs bod rhannau'n ffuglen, ond dim ots. Mae'n hynod o ddiddorol. Y broblem ydy bod yna gynifer o enwau tebyg yn ogystal â pherthnasau cymhleth. Yn aml iawn dw i ddim yn gwybod pwy ydy pwy. (Rodd gan dad Nobunaga 25 o blant a aned gan nifer o ordderchadon, ac roedd ganddyn nhw enwau ofnadwy o debyg!) Mae yna fwy o lyfrau yn y gyfres; byddwn i eisiau eu darllen nhw i gyd.

No comments: