Saturday, August 18, 2012

tuedd newydd

Es i efo'r teulu i dŷ ffrind neithiwr am swper. Daeth rhyw ddeg o fyfyrwyr o Japan hefyd (llawer mwy na ddisgwyliwyd gan y ffrind.) Heblaw am ddiffyg bwyd a gweithgareddau, roedd yn noson braf. 

O leiaf roeddwn i'n cofio gofyn i un o'r myfyrwyr sydd newydd ddychwelyd o Japan ydy hi wedi gweld Thermae Romae yn y theatr. Ydy, ac roedd hi'n gwirioni arno. Wedi gweld y ffilm, aeth hi dan ddŵr y bath hyd yn oed i weld fyddai hi'n medru teithio i Rufain hynafol! A gofynnwyd gan ei mam be' ar y ddaear mae hi'n ei wneud. Tybed bod y ffilm wedi creu tuedd newydd ym maddonau Japan.

No comments: