Wednesday, January 16, 2013

lloches

Mae tywydd gaeafol arnon ni o'r diwedd. Dan ni'n defnyddio'n llosgwr tân ni sydd yn cynhesu'r tŷ'n braf. Neithiwr clywais gynnwrf tu allan y drws blaen; pwy oedd yna ond aderyn bach del yn hedfan o dan y bondo'n ceisio ffeindio llecyn clyd i dreulio'r noson oer. Gadawodd pan oedd yn ddigon golau'r bore 'ma. Daeth aderyn arall felly ddwy flynedd yn ôl. Ac fe wnaeth pâr nyth ar yr un lle a magu teulu. Efallai mai un o'r babis ydy'r aderyn a ddaeth neithiwr. Dw i'n falch o gynnig lloches i adar truan, ond a dweud y gwir, yn gobeithio nad fyddan nhw'n codi nyth arall yno.

No comments: