Tuesday, January 8, 2013

pethau diangen

Dw i'n cael fy synnu'n aml at gymaint o bethau dan ni wedi casglu dros flynyddoedd. Mae'n ymddangos bod hanner ohonyn nhw'n ddiangen bellach ac eto dan ni'n dal i'w cadw am ryw reswm neu i gilydd. Dw i a fy merch hynaf yn awyddus i gael gwared arnyn nhw, ond mae gweddill y teulu'n tueddu i gadw popeth "rhag ofn." 

Penderfynais i, fodd bynnag, i fynd drwy fy nghwpwrdd dillad (lle mae pawb yn cadw rhan o'u heiddo ynddo!) Yn y diwedd roedd yna ddau neu dri o fagiau sbwriel mawr i daflu a phentwr o bethau i roi i AMVETS (elusen.) Mae fy nghwpwrdd mor wag fel dw i'n cael sioc pryd bynnag agora' i'r drws!

No comments: