pethau syml
Fe ddaw rhan o'r teulu yma i ddathlu Diwrnod Diolchgarwch yr wythnos nesaf. Dw i wedi bod yn casglu "teganau" er mwyn diddanu fy ŵyr ac wyres. Dyma nhw - capiau a modrwyau cartonau llefrith, sgwpiau powdr protein. Dw i'n sicr y bydd y babis yn cael hwyl gyda'r pethau syml hyn.
No comments:
Post a Comment