Saturday, August 3, 2013
teml solomon
Des i ar draws dudalen hynod o ddiddorol y bore 'ma. Fe wnaeth hogyn 17 oed fodel teml Solomon efo Lego (flynyddoedd yn ôl, ond dim ots.) Fe wnaeth y gwaith ymchwilio'n drylwyr er mwyn adeiladu model dilys. Mae Jakin a Boaz (y ddwy golofn dâl wrth y drws blaen) yn edrych yn smart iawn. Mae'r hogyn yn wir amyneddgar parhau am dros flwyddyn.
Friday, August 2, 2013
cyflogwr da yn y dref
Mae fy merch ifancaf newydd ddechrau gweithio'n rhan amser i'r siop hufen iâ ynghyd ei chwaer. Roedd fy nau blentyn hŷn yn gweithio yno hefyd flynyddoedd yn ôl. Cyflogwr da ydyn nhw yn y dref hon. A dweud y gwir, mae yna gynifer o bobl ifanc yn yr ysgol uwchradd leol yn gweithio hefyd. Mae fel pe bai hi'n rhan o'r ysgol! Felly er bod fy merch yn newydd yn y gwaith, mae hi'n nabod llawer o'r gweithwyr yn barod. Mae hi eisiau cynilo pres i fynd i'r Iwerddon efo'i chwaer ryw ddiwrnod.
Thursday, August 1, 2013
yr olwg harddaf
Wednesday, July 31, 2013
dyn haearn
Dw i newydd ddarllen am y ffilm newydd hon, a chael cip ar y trailer. Er gwaetha'r dechnoleg ddiweddaraf, na, oherwydd y dechnoleg ddiweddaraf, mae'r stori am y "super hero" yn llai deniadol yn fy marn i. Mae'n debyg i Star Wars a'r nifer eraill o ffilmiau o'r fath. Mwynheais y gyfres gyntaf efo George Reeves fel Superman a welais yn Japan amser maith yn ôl. Roedd yn hwyl gweld y dyn cyffredin yn mynd i mewn i flwch teleffon ac ymddangos fel Superman er mwyn achub y bobl mewn perygl a threchu'r drygioni.
Tuesday, July 30, 2013
llanast
Achosodd y llifogydd lanast mawr yn swyddfa'r gŵr. Cafodd ei lyfrau a phapurau pwysig eu gwlychu. Doedd fy ymdrech ddim yn ddigon ddyddiau'n ôl, ac felly gofynnodd o fi i ddod i'w helpu. Roedd rhaid mwydo'r papurau mewn dŵr i wahanu'r tudalennau a aeth yn sownd efo'i gilydd, ac wedyn eu sychu nhw un ar y tro. Mae yna bentwr ohonyn nhw. Roeddwn i wrthi oriau heddiw; bydd yn cymryd dyddiau i gwblhau popeth. Clywodd y gŵr mai ar y draen tu allan y drws cyfagos oedd y bai; roedd o'n llawn o fwd a dail, ond doedd neb yn meddwl ei lanhau.
Monday, July 29, 2013
mae'n hwyl!
Yr offeryn cerddorol o Japan; dw i wedi bod yn ei chwarae wrth ddarllen y llyfrau a ddaeth efo fo, a dysgu ar y we. Roedd braidd yn gymhleth ei diwnio, ond mae'n hawdd ei chwarae unwaith mae popeth yn iawn. Mae yna ddwsinau o ganeuon cyfarwydd yn y llyfrau. Ar ben hynny, dw i'n mwynhau chwarae fy ffefrynnau - O Sole Mio, Summertime er engrhaifft. Dw i ddim yn dda wrth gwrs ond mae'n hwyl cael chwarae offeryn cerddorol heb hyfforddiant arbennig.
Sunday, July 28, 2013
anrhegion diddorol
Wedi teithio yn Hawaii, Corea a Japan am fis, mae'r gŵr newydd ddod adref. Daeth â phethau diddorol oddi wrth dŷ ei rieni - yr ukulele a oedd o'n arfer chwarae flynyddoedd yn ôl a taisho-goto (offeryn cerddorol Japaneaidd) a gafodd o gan ei fam. Mae fy merched wrthi'n tiwnio'r ukulele rŵan. Rhaid i mi ddysgu sut i chwarae taisho-goto. Mae hi'n swnio'n debyg i mandolin a medru creu alawon hyfryd.
Subscribe to:
Posts (Atom)


