Efallai na fydd Oklahoma City yn dod i'ch meddyliau chi yn y byd celf stryd, ond nhw ydy'r gorau in America; cafodd eu dewis gan ddarllenwyr USA Today. Gwelir sawl murlun fy merch hynaf yno hefyd. Hwn ydy ei diweddaraf, sef Dyn Meddyginiaeth.
Friday, May 14, 2021
y gelf stryd orau
Efallai na fydd Oklahoma City yn dod i'ch meddyliau chi yn y byd celf stryd, ond nhw ydy'r gorau in America; cafodd eu dewis gan ddarllenwyr USA Today. Gwelir sawl murlun fy merch hynaf yno hefyd. Hwn ydy ei diweddaraf, sef Dyn Meddyginiaeth.
Wednesday, May 12, 2021
graddio 2
Mae aelod arall o'r teulu newydd raddio; fy ŵyr pedwar oed a raddiodd yn yr ysgol feithrin heddiw. Roeddwn i a'r gŵr yn gwylio llif byw'r bore 'ma, diolch i'r dechnoleg fodern. Fe wnaeth o bopeth yn dda - canu a dawnsio, ond mae'n amlwg ei fod o wedi blino tua'r diwedd.
Sunday, May 9, 2021
graddio
Mae fy mhlentyn ifancaf newydd raddio yn College of the Ozarks yn Nhalaith Missouri. Roedd o'n astudio'n ofnadwy o galed dan bwysau anghredadwy yn yr adran beirianeg wrth weithio ar y campws. "Drwy ras Iesu a nerth Ysbryd Glan, llwyddais i gyrraedd y nod," meddai.
Wednesday, May 5, 2021
ynys eno
Aeth fy nhair merch yn Japan i Enoshima, ynys fach, ger Tokyo wrth gymryd mantais ar wyliau Wythnos Aur. Cawson nhw docyn diwrnod i deithio'r ynys ynghyd â Kamakura, ond doedd dim amser iddyn nhw fynd i Kamakura. Cawson nhw ddiwrnod braf yn yr heulwen ac yn yr ogof. Roeddwn i'n arfer byw nid nepell o Enoshima, ond es i yno ond unwaith pan oeddwn i'n blentyn.
Tuesday, May 4, 2021
arbrofi
Mae fy merch hynaf a'i gŵr ar wyliau ers dydd Sul, yn Mecsico y tro 'ma. Mae ganddyn nhw gynllun newydd; byddan nhw'n gweithio ar lein yn y bore, a mwynhau eu gwyliau yn y prynhawn am bythefnos, er mwyn ffeindio fydd yn bosib byw felly yn y dyfodol. Eu gobaith ydy teithio'n helaeth a gweithio ar lein. Swnio'n braf.
Monday, May 3, 2021
chwerthin
Saturday, May 1, 2021
diwrnod trump mis mai
Subscribe to:
Posts (Atom)



