Thursday, February 26, 2009

teils


Dan ni'n cael trwsio llawr un o'r ddwy ystafell ymolchi ar hyn o bryd. Mae'n gas gen i garpedi yn enwedig mewn ystafell ymolchi. Maen nhw'n wlyb wrth reswm ac oherwydd hynny mae rhan o'r llawr pren wedi pydru. Rhaid cael pren newydd. Ac dan ni'n cael teils yn lle carped y tro ma.

llun: darnau sy'n mynd o dan y teils

Wednesday, February 25, 2009

siaradwch gymraeg â fi!

Fasech chi'n hoffi nwyddau sy'n dweud "Siaradwch Gymraeg â fi!" ? Dw i newydd archebu crys T. Mae fy merch hyna wedi dechrau gwerthu nwyddau efo ei dyluniadau gwreiddiol. A gofynes i iddi wneud rhywbeth Cymraeg. A dyma nhw! Ei syniad ydy'r cymal. Diolch yn fawr i szczeb am ei help efo'r cyfieithiad. Bydd hi'n gwneud dyluniadau Cymraeg eraill yn y dyfodol hefyd. Dewch yn llu!

Tuesday, February 24, 2009

rhwystredigaeth

Dw i'n dal i ddarllen Traed Mewn Cyffion. Mae'r nofel ma'n llawer mwy anodd na Te yn y Grug. Mae gen i gyfieithiad Saesneg ac mae rhaid i mi edrych arno'n aml. Dw i wedi sylweddoli bod y cyfieithydd ddim wedi cyfieithu popeth. Sgen i ddim crefft cyfieithu wrth gwrs ond dw i ddim eisiau gweld brawddegau a chymalau gwreiddiol cael eu gadael heb gael eu cyfieithu. e.e.

Yn y trên, eisteddai Wiliam a'i law dan ei ben, a'i brudd-der yn lwmp yn ei frest.
In the train Wiliam sat with his hand under his chin.

Does yna ddim sôn am 'brudd-der yn lwmp yn ei frest' yn y fersiwn Saesneg. Mae'r cymal yma'n bwysig er fod o'n fyr. Mae yna enghraifftiau eraill tebyg drwy'r llyfr. O, wel, does na ddim byd i'w wneud amdanyn nhw ond roedd rhaid i mi gael dweud hyn i ysgafnhau fy rhwystredigaeth.




Monday, February 23, 2009

mae gen i gariad


Prynes i'r gân hon gan Tony ac Aloma wedi ei chlywed hi ar raglen radio Dewi Llwyd heddiw. Dw i'n hoff iawn o'u caneuon. Mae eu cytgord swynol sy'n fy mhlesio. Fedra i ddim peidio dawnsio pan glywa i'r gân ysgafn a rhythmig ma. 

Gyda llaw peth hwylus ydy iTune. Falch iawn o weld nifer mawr o ganeuon Cymraeg ar gael. (Cân Hogia'r Wyddfa ydy un arall a brynes i'n ddiweddar.)

Thursday, February 19, 2009

piano wedi'i gyweirio


Mae'n amser i gael cyweirio'n hen biano. Daeth Mr. Brice i wneud y gwaith p'nawn ma. Mae o'n ein gwasanaethu ers blynyddoedd. Er bod o'n ddall, mae o'n mynd o gwmpas y dre a'i chyffiniau efo cymorth ei frawd. Mae o'n gwneud job reit dda bob tro ac yn trwsio yma ac acw'n fedrus hyd yn oed. Mi wela i fo eto flwyddyn nesa.

Monday, February 16, 2009

mae'n wir!

Ydy! Mae'n wir! Bydd yna raglen gyfnewid rhwng y brifysgol leol yma a Phrifysgol Abertawe cyn hir! Bydd yn bosibl dechrau yn yr hydref eleni.

Ymwelodd swyddog Prifysgol Abertawe â Dr. Carhart y bore ma'n siarad am bosibilrwydd. Mae yna adran astudiaethau Americanaidd yn Abertawe ac mae gynnyn nhw ddiddordeb mawr yn America mwy nag erioed ar ôl i Obama gael ei etholi. Hefyd ceith y brifysgol yma gynnig cwrs ar ddiwylliant Cherokee. 

Roeddwn i'n edrych ymlaen at gael gyfarfod efo'r swyddog ond ches i ddim cyfle gwaetha'r modd achos mai dim ond awr a hanner roedd hi yma. Mae hi wed bod yn ymweld â'r brifysgolion yn Oklahoma.

Pwy a wyr? Efallai bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn dod i astudio yma hefyd yn y dyfodol. (Ella bydd Dr. Hunter a'i fyfyrwyr isio dwad i gwblhau ei ymchwil ar Evan Jones?)

Sunday, February 15, 2009

diwrnod japan



Caethon ni Ddiwrnod Japan yn ein eglwys heddiw. Gwelon ni luniau o Japan. Siaradodd tri o fyfyrwyr Japaneaidd am eu profiadau. A Mr. Barthold, cyn-genhadwr i Japan am 42 mlynedd a wnaeth sôn am y bywyd ag yr arferion yn Japan.

Beth ddilynodd ond pot lwc dwyreiniol. Roedd yna gymaint o fwyd a oedd yn llenwi'r bwrdd hir (mwy nag arfer.) Cyfrannodd rhai myfyrwyr at goginio hefyd. Coginiais i 'mabo-dofu' sy'n saig Tseineaidd.

Daeth nifer o fyfyrwyr newydd a mwynheuodd pawb y diwrnod arbennig.