Wednesday, March 31, 2021

blodau a photelau gwin

Prynodd y gŵr flodau hydrangea hardd. Y broblem ydy bod ganddyn nhw bennau trwm. Wedi ceisio sawl cawg heb lwyddiant, ces i syniad da. Dyma fo. Llwyddais ailgylchu potelau gwin ar yr un pryd.

Tuesday, March 30, 2021

gwefan newydd


Dw i'n hynod o falch i wybod bod yr Arlywydd Trump newydd lansio gwefan newydd sbon. Mae'n ymroddedig i warchod etifeddiaeth ei weinyddiaeth a'i weithgareddau ôl-lywyddiaeth. O'r diwedd bod modd syml i gyswllt â fo ar gyfer y bobl gyffredin ers i'w fuddugoliaeth etholiad ei ddwyn drwy dwyll a bygythiad. Dw i a'r gŵr yn dal i weddïo’n daer drosto fo'n ddi-baid ond roeddwn i'n ei golli'n ofnadwy. Pob bendith!

Monday, March 29, 2021

ym mharc nara

Mae fy nwy ferch yn Japan yn mwynhau gwyliau yn Kyoto ar hyn o bryd. Maen nhw newydd ymweld â Pharc Nara gerllaw sydd yn enwog am ei geirw rhydd. Mae gan ran fwyaf ohonyn nhw ddiddordeb ond mewn bwyta o law ymwelwyr, ond mae'r lleill yn bodloni cael eu hanwesu hefyd.

Saturday, March 27, 2021

iesu ein passover ni

Bydd Gŵyl Passover yn cychwyn heno yn cofio bod Duw wedi dod â'r Israeliaid ​o'r Aifft liw nos.
"Pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi," meddai Duw.

Friday, March 26, 2021

fideo newydd

Dyma fideo newydd sbon gan fy merch hynaf am ei murlun diweddaraf. Mae'n edrych pe bai hi'n paentio'n hawdd, ond dwedodd hi sawl tro tra oedd hi'n gweithio ba mor anodd paentio ar friciau. Cynorthwyydd gwerthfawr ydy ei gŵr hi sydd yn gweithio mor galed â hithau. Mae'n braf gweld ymateb ei chleient bob tro.

Wednesday, March 24, 2021

cerdyn gwyrdd newydd

Dw i newydd dderbyn cerdyn gwyrdd newydd (fisa preswylydd parhaol.) Fel arfer rhaid ymddangos yn y swyddfa benodol yn y dalaith arall er mwyn cwblhau popeth. Roeddwn i'n bryderus am y siwrnai hir at y swyddfa, ond dw i'n ddiolchgar nad oeddwn i'n gorfod mynd y tro 'ma. Mae'n debyg o achos Coronafeirws. 

Tuesday, March 23, 2021

saig higan

Roedd fy merch hynaf wrthi'n coginio ddydd Sadwrn er mwyn paratoi saig Higan, sef Diwrnod Cyhydnos Wanwynol. Coginiodd hi anko (past melys ffa coch) hyd yn oed yn lle agor tun. Roedd rhaid iddi wneud cyri, fodd bynnag, yn hytrach na soba (nwdls gwenith yr hydd) oherwydd nad ydy'i gŵr yn hoffi soba.