Sunday, April 19, 2015

annwyl cinzia

Dw i'n sgrifennu'r blog hwn bob dydd er mwyn ymarfer fy Nghymraeg. Hebddo fo dw i'n eithaf sicr bydd hi'n rhydlyd mewn byr amser. Dechreuais un arall yn Eidaleg amser maith yn ôl ond rhois y gorau iddo am ryw reswm neu beidio. Dw i'n gwrando ar Eidaleg bob dydd, Italiano Automatico gan amlaf, ond dw i newydd sylweddoli dylwn i sgrifennu Eidaleg bob dydd hefyd. Mae'n anodd cael hyd i penpal ffyddlon, (dw i wedi ceisio a methu sawl tro) a dyma benderfynu creu un a sgrifennu ati hi bob dydd. Dewisais enw iddi hefyd, sef Cinzia. Dw i'n cael dweud beth bynnag a ddaw i fy meddyliau heb boeni am neb arall oherwydd mai ond dyddiadur ydy o. Dw i'n mynd i sgrifennu ati hi ar ôl postio'r pwt hwn.

No comments: