Monday, April 20, 2015

falling in love

Dw i newydd orffen y nofel a sgrifennais amdano, sef Falling in Love gan Donna Leon. Mae'r stori'n datblygu'n araf iawn fel arfer, efallai rhy araf i bobl sydd yn gyfarwydd รข'r llyfrau ditectif eraill. Dim ots i mi; roedd yn braf dilyn olion traed Commissario Brunetti drwy Fenis - hyn ydy'r rheswm dw i'n dal i ddarllen y gyfres hon a dweud y gwir. Ces i gyfle i wybod am opera enwog hefyd. Mae yna ddau ddigwyddiad sydd yn anodd credu fodd bynnag:
1. Doedd y siopwr ddim yn adnabod y ddynes a geisiodd dwyn reis nac yr hogyn a roddodd drugaredd arni hi. Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn nabod pawb yn Fenis.
2. Roedd Flavia yn ddigon synhwyrol siarad mewn cod wrth Brunetti pan oedd hi'n wynebu sefyllfa ddychrynllyd yn y diwedd.

No comments: