Tuesday, April 7, 2015

y bobl

"Ces i amser anhygoel o braf yn Llanberis. Does ryfedd dy fod ti wedi mynd yno tro ar ôl y llall," meddai fy merch wrtha i. Wrth gwrs bod Llanberis yn lle hyfryd - un o'r llefydd brafiaf yng Nghymru, ond y bobl sydd yn rhoi mwy o argraff ar neb yn fy marn i. Yn ogystal â Carol a Martin, a nifer o bobl glên, fe wnaeth hi gyfarfod Deryl, perchennog unigryw Siop y Mêl sydd wedi dangos cymaint o garedigrwydd iddi. Ces innau amser gwych efo fo flynyddoedd yn ôl. Wedi symud i Gaeredin bellach, mae hi'n colli'n barod y cyfleoedd i ddefnyddio ei Chymraeg ar bob cornel.

No comments: